Amdanom ni 

Wedi’i sefydlu ym 1957, mae Golley Slater wedi esblygu fel cwmni ers 65 mlynedd ac rydyn ni’n cael ein hysgogi gan ein chwilfrydedd cynhenid.

Rydyn ni’n annog gwerthiant dros nos, ysgogi brandiau dros amser ac yn sbarduno newidiadau mewn cymdeithas. Rydyn ni’n gwneud hyn oll gan ddilyn ein Harwyddair:

MAE CHWILFRYDEDD YN CREU’R ANNISGWYL.

1950au

1960au

1970au

2000au

2001

2004

2012

2014

2014

2014

2016-2018

2018

2021

2021

Creu un o’r hysbysebion teledu byw cyntaf yn y DU ar gyfer crwst Jus-Rol

Golley Slater yn hysbysebu Victor Value Stores ar y teledu am y tro cyntaf. Roedd yn rhan o fusnesau’r teulu Cohen, sy’n cael ei alw yn Tesco erbyn heddiw 

Golley Slater yn cynnal clwb gwyliau ar ran British European Airways (BEA) i weithwyr yn y diwydiant trafnidiaeth, gan arwain y ffordd at gynllun teyrngarwch British Airways 

Golley Slater yn creu’r rhaglen recriwtio milwyr cenedlaethol gyntaf a ddefnyddir yn rhanbarthol o amgylch catrodau’r Fyddin Brydeinig 

Golley Slater delivers long-term market share of over 50% for the Mitsubishi L20

Golley yn ymuno â P&G ar eu taith i greu’r marchnata siopwyr gorau  

Helpu P&G i lansio rhaglen ‘Dŵr Yfed Glân’ mewn partneriaeth ag Asda 

Gweithio gyda Mitsubishi Motors ar eu cytundeb noddi ‘Documentaries on 4’

Cafodd Mitsubishi Outlander PHEV ei lansio, ac ymhen dim, dyma oedd car hybrid trydan plygio-mewn mwyaf poblogaidd y DU. 

Celebrate 10 years as Procter & Gamble’s shopper marketing agency

Mitsubishi yw’r brand ceir sy’n tyfu gyflymaf yn y DU, oherwydd y gwaith gyda Golley Slater 

Lansio ymgyrch gofal iechyd a enillodd wobrau ar ran Llywodraeth Cymru – #SiaradAmRoiOrganau 

Dathlu deng mlynedd fel Asiantaeth Marchnata Siopwyr Coca-Cola 

Ennill y Grand Prix yn The Drum Recommended Awards, ynghyd â gwobrau am Farchnata Hyrwyddo, Cyflenwi Gwasanaethau, a Data  

Pwy ydym ni?

Crewyr Chwilfrydig

O Gaerdydd i Cirencester, o Leeds i Lundain, mae cyrhaeddiad byd-eang gyda ni trwy Rwydwaith ICOM.

Dywed ein cleientiaid…

“Asiantaeth dryloyw iawn sy’n canolbwyntio ar ganlyniadau. Byddwn i’n ei hargymell.”

Cyngor Caerdydd

“Mae gweithio gyda Golley yn gymaint o hwyl. Maen nhw’n deall ein busnes a’n defnyddwyr i’r dim. Maen nhw bob amser yn gweithio i safon uchel iawn ac yn cyflawni gwaith sy’n sefyll allan, yn brydlon, o fewn y gyllideb.”

The Coca-Cola Company

“Roedd Golley Slater yn drefnus iawn ac yn hynod o drylwyr yn eu cynllunio a’u rhesymeg tu ôl i bob penderfyniad a wnaed ar gyfer yr ymgyrch. Roedd optimeiddiadau’n cael eu gwneud yn gyson ac yn cael eu hesbonio i ni i’w cymeradwyo – roedd hi’n wych bod yn rhan o’r ymgyrch, heb i ni orfod gwneud llawer o waith.”

Zip World

“Mae Golley Slater bob amser yn broffesiynol ac yn brydlon. Maen nhw’n chwilio am ddyfynbrisiau ac yn gwneud hynny’n gyflym, sy’n golygu llai o drafferth i ni.”

Addysg a Gwella Iechyd Cymru
Health Education and Improvement Wales

“Mae Golley Slater yn rhoi gwasanaeth rhagorol sy’n fy helpu i gyflawni nodau fy nghwmni, a hynny heb straen! Maen nhw wir yn rhan o dîm Audley, a fydden ni ddim yn gallu gweithio hebddyn nhw.”

Audley Villages

Awydd gwybod mwy?