Polisi Briwsion

Mae ein gwefan yn defnyddio briwsion i wahaniaethu rhyngoch chi a defnyddwyr eraill. Mae hyn yn ein helpu i roi profiad da i chi wrth bori drwy ein gwefan ac yn ein galluogi i wella’r wefan hefyd. Mae’n angenrheidiol i chi bori’r wefan er mwyn caniatáu defnyddio cwcis ac mae’n amod defnyddio’r wefan eich bod yn caniatáu ein defnydd o gwcis. 

Mae briwsionyn yn ffeil fach o lythyrau a rhifau rydyn ni’n ei storio ar eich porwr neu ar yriant caled eich cyfrifiadur gyda’ch caniatâd. Mae briwsion yn cynnwys gwybodaeth sy’n cael ei throsglwyddo i yriant caled eich cyfrifiadur. 

Rydym yn defnyddio’r briwsion canlynol: 

Cwcis hollol angenrheidiol
Mae’r briwsion hyn yn angenrheidiol ar gyfer gweithrediad ein gwefan. Maent yn cynnwys, er enghraifft, cwcis sy’n eich galluogi i fewngofnodi i rannau diogel o’n gwefan neu ddefnyddio rhan ryngweithiol o’r wefan. 

Briwsion dadansoddol/perfformiad
Maent yn ein galluogi i adnabod a chyfrif nifer yr ymwelwyr a gweld sut mae ymwelwyr yn symud o amgylch ein gwefan pan fyddant yn ei defnyddio. Mae hyn yn ein helpu i wella’r ffordd y mae ein gwefan yn gweithio, er enghraifft, drwy sicrhau bod defnyddwyr yn dod o hyd i’r hyn y maent yn chwilio amdano yn hawdd. 

Briwsion swyddogaethau
Mae’r rhain yn cael eu defnyddio i’ch adnabod pan rydych yn dychwelyd i’n gwefan. Mae hyn yn ein galluogi i bersonoli ein cynnwys ar eich cyfer, i’ch cyfarch yn ôl eich enw, ac i gofio’ch dewisiadau (er enghraifft, eich dewis iaith neu ranbarth). 

Briwsion targedu
Mae’r briwsion hyn yn cofnodi eich ymweliad â’n gwefan, y tudalennau rydych chi wedi ymweld â nhw, a’r dolenni rydych chi wedi’u dilyn. Byddwn yn defnyddio’r wybodaeth hon i wneud ein gwefan a’r hysbysebu sy’n cael ei arddangos arni yn fwy perthnasol i’ch diddordebau. Efallai y byddwn hefyd yn rhannu’r wybodaeth hon â thrydydd partïon at y diben hwn.