Dadansoddi ac Adrodd Data
Mae gwerthuso a phriodoli ymgyrchoedd wrth galon ein gwaith. Rydyn ni’n arwain y farchnad o ran optimeiddio a gwerthuso digidol, yn arbenigwyr yn ein CPMs, CTRs, CPC’s, CPVs a hyd yn oed CPLPV – ac os nad yw’r holl lythrennau hyn yn golygu unrhyw beth i chi, gallwn gymryd y data a’u troi’n rhywbeth ystyrlon a hawdd ei ddeall.
Mae Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth ac asiantaeth gofrestredig y DMA yn cydymffurfio’n llym â’r GDPR wrth olrhain y nifer sy’n eu defnyddio. Mae ein hargymhellion yn seiliedig ar ddadansoddiad o fetrigau ymgyrchoedd yn erbyn paramedrau ymgyrchoedd penodol.
O ymwybyddiaeth ymysg grwpiau anodd eu cyrraedd, i gyrhaeddiad, amlder a metrigau ymgysylltu, rydyn ni’n optimeiddio cyllidebau cyfryngau tuag at sianeli sy’n perfformio’n dda a’r asedau creadigol sy’n perfformio orau mewn amser real.