Cynllunio a prynu yn y cyfryngau

Y neges iawn, y gynulleidfa iawn, ar yr adeg iawn. Rydyn ni’n arbenigwyr ar gysoni’r ffactorau hyn i wneud yn siŵr bod eich neges yn cael ei danfon yn y ffordd fwyaf effeithiol bosib.

Yn enillydd Gwobrau Drwm ‘Grand Prix’ 2021, mae ein gwaith yn cael ei gydnabod ar draws pob sector.

Rydyn ni’n greadigol, yn gynllunwyr ymgyrchoedd, yn ddadansoddwyr data, yn feddylwyr strategol, yn arloeswyr digidol, yn fesurwyr effeithiolrwydd ac yn brynwyr cyfryngau sy’n adeiladu ein tîm o amgylch eich her busnes. Rydyn ni’n cyfuno sgiliau ein harbenigwyr sy’n gweithio ochr yn ochr â’ch tîm i’ch helpu chi i ddatrys eich heriau – bach a mawr.

Twristiaeth

Recriwtio

Y Sector Cyhoeddus

Addysg

Nid-Er-Elw

Defnyddiwr

Gan ein bod yn asiantaeth gyfryngau annibynnol, rydyn ni’n rhoi ein cleientiaid yn gyntaf. Rydyn ni’n cael ein cydnabod fel arloeswyr technoleg hysbysebu drwy ein harbenigwyr chwilio a’n desg fasnachu rhaglennol uwch fewnol.

Beth rydyn ni’n ei wneud

Mae rhagor o wybodaeth am ein gwaith Cyfryngau ar gael yma

Mae rhagor o wybodaeth am ein gwaith Cyfryngau ar gael yma

Peidiwch â chymryd ein gair ni yn unig…

“Fe wnaeth Golley Slater ddarparu gwasanaeth slic a sylwgar. Roedd eu gwaith o gynllunio’r cyfryngau a thrin cyfrifon yn rhagorol, gyda gweithrediadau digidol creadigol, a pharodrwydd i fynd yr ail filltir i sicrhau bod yr ymgyrch yn cael ei chynnal ar amser ac i safon uchel.”

Iechyd Cyhoeddus Cymru

 

“Mae Golley Slater, gan weithio’n agos gyda’n contractwyr eraill, wedi sicrhau canlyniadau sy’n rhagori ar ddisgwyliadau. Ddechrau mis Mawrth 2020, gweithiodd Golley Slater yn ddwys gyda Phartneriaid Prosiect Llwybrau Celtaidd i addasu ein gweithgareddau marchnata ar bob platfform yn sylweddol. Bu iddynt gynghori, dyfeisio, a gweithredu pob newid yn gampus ac yn broffesiynol. Heb ddefnyddio jargon y diwydiant, maent wedi bod yn ymwybodol o’n gofynion unigryw fel Awdurdodau Lleol. Mae’r tîm wedi parhau i fod yn ymatebol ac yn gydweithredol, ac mae Partneriaid Prosiect y Llwybrau Celtaidd yn gwerthfawrogi hynny’n fawr.”

Llwybrau Celtaidd

Beth am gael sgwrs